CY
CY

PRESWYLWYR​

Ydych chi’n chwilio am help i dorri i lawr ar eich costau ynni ac ar yr un pryd, lleihau eich effaith ar y blaned? Bydd y Siop Un Stop yn rhoi cyngor arbenigol diduedd ac yn eich cefnogi ar eich taith i leihau eich allyriadau carbon tra hefyd yn torri i lawr ar gostau eich biliau ynni.

Dyma ddechrau taith i ddarparu cymorth hirdymor ym Mhen-y-bont ar Ogwr i gyrraedd Sero Net gyda’r nod o ddarparu:

  • Gwasanaeth cyngor am ddim ar ba dechnolegau arbed ynni sydd ar gael a chyngor wedi’i deilwra ar yr hyn fyddai’n gweithio i chi
  • Archwiliadau ac asesiadau ynni i fesur y defnydd presennol o ynni a nodi cyfleoedd i arbed ynni
  • Helpu i nodi cymhellion ariannol i’ch helpu i leihau costau
  • Cyfle i ymweld â ‘Cartref Syniadau’ Coleg Penybont a gweld mesurau a thechnolegau effeithlonrwydd ynni gwirioneddol yn cael eu gosod
  • Cyfeirio at gyflenwyr a chontractwyr lleol

A OES UNRHYW GYMORTH ARIANNOL?

Mae NEST yn rhan o Raglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru. Mae’n cwmpasu mesurau inswleiddio, technolegau adnewyddadwy neu foeleri newydd.

Sefydliad Rheoli Cymhwysedd Sut i wneud cais Cysylltwch Faint sydd ar gael? Dyddiad cau
Nwy Prydain
  1. Mae angen i chi fod yn berchen ar eich cartref eich hun neu rentu gan landlord preifat.
  2. Mae eich cartref yn aneffeithlon o ran ynni gyda biliau ynni uchel ar gyfer gwresogi.
  3. Mae rhywun yn y cartref ar fudd-dal prawf modd, neu â chyflwr iechyd cronig neu ar incwm isel.
Cysylltwch â llinell gymorth NEST i siarad â chynghorydd. Rhadffôn 0808 808 2244 Dim terfyn ariannol, mae grant yn talu costau mesurau a nodwyd yn yr arolwg cartref. Hyd at fis Mawrth 2031

Cynllun Uwchraddio Boeleri. Mae grant ar gael i uwchraddio eich system wresogi i bwmp gwres neu system wresogi biomas.

Sefydliad Rheoli Cymhwysedd Sut i wneud cais Cysylltwch Faint sydd ar gael? Dyddiad cau
Llywodraeth y DU
  1. Mae angen i chi fod yn berchen ar yr eiddo rydych yn gwneud cais amdano.
  2. Gosodwyd eich system wresogi newydd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2022
  3. Bod yn disodli system wresogi tanwydd ffosil.
  4. Mae'n rhaid i'r eiddo gael Tystysgrif Perfformiad Ynni dilys, fodd bynnag o fis Mai 2024 bydd yr eiddo'n dal yn gymwys hyd yn oed os oes argymhellion inswleiddio heb eu bodloni ar yr EPC.
  1. Cysylltwch â gosodwyr ardystiedig MCS addas i gael dyfynbrisiau ar gyfer y gwaith. Gellir adnabod gosodwyr ardystiedig trwy wefan MCS.
  2. Cadarnhewch eich cymhwysedd (bydd eich gosodwr yn gallu gwneud hyn).
  3. Bydd y gosodwr yn gwneud cais am grant oddi wrth OFGEM a bydd gwerth y grant yn cael ei dynnu oddi ar y dyfynbris a roddwyd i chi ar gyfer y gwaith gan y gosodwr.
  4. Bydd OFGEM yn cysylltu â chi i gadarnhau bod y gosodwr yn gweithredu ar eich rhan.
https://www.gov.uk/apply-boiler-upgrade-scheme/how-to-apply. business.wales.gov.uk

Hyd at £7,500

Hyd at fis Mawrth 2025

Gostyngiad Cartrefi Cynnes Cefnogi incwm isel, y rhai sy'n agored i salwch sy'n gysylltiedig ag oerfel a'r rhai sy'n byw mewn tlodi tanwydd.

Sefydliad Rheoli

Cymhwysedd Sut i wneud cais Cysylltwch Faint sydd ar gael? Dyddiad cau
Llywodraeth y DU
  1. Mae'r Cynllun yn ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr ynni domestig sydd â dros 1000 o gwsmeriaid ddarparu gostyngiad blynyddol i filiau cwsmeriaid.
  2. Wedi'i anelu at 2 grŵp craidd.
    - Grŵp 1. pensiynwyr tanwydd-anghenus - Grŵp cwsmeriaid tanwydd-anghenus3. Mae cymhwyster Grŵp 2 yn cynnwys y rhai sydd ar:

    - Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm (LCSI)
    - Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm (LCGSI)
    - Cymhorthdal Incwm
    - Credyd Cynhwysol
    - Budd-dal tai
    - Credydau Treth Plant a Chredydau Treth Gwaith
    -Credyd Cynilion Credyd Pensiwn (CCCP)

Cysylltwch â thîm Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn yr Adran Diogelwch Ynni a Net Sero

Ffôn: 0800 030 9322 Business Wales Contact Form

https://www.ofgem.gov.uk/environmental-and-social-schemes/warm-home-discount-whd

Grŵp craidd 1 - ad-daliad o £150 i bensiynwyr sy'n dlawd o ran tanwydd

Grŵp craidd 2 – ad-daliad o £150 i gwsmeriaid sy’n dlawd o ran tanwydd

Mawrth 2027

Mae'n darparu cyllid ar gyfer pympiau gwres, paneli solar ffotofoltäig, inswleiddio atig, inswleiddio ceudod a waliau mewnol.

Sefydliad Rheoli Cymhwysedd Sut i wneud cais Cysylltwch Faint sydd ar gael? Dyddiad cau
Llywodraeth y DU
  1. Rhaid bod yn berchennog tŷ neu'n denant. 2. Derbyn budd-daliadau’n ymwneud ag incwm. 3. Rhaid i'r cartref fod â sgôr EPC o E, F neu G. 4. Rhaid i incwm cartref fod yn llai na £31,000. 5. Salwch sy'n gysylltiedig ag iechyd.
Llenwch y ffurflen cymhwysedd ar-lein ar y wefan.

Awdurdod Lleol (EON ym Mhen-y-bont ar Ogwr)

NVI@cardiffcapitalregion.gov.uk

Hyd at £50,000 y cartref Parhaus

Dim TAW ar baneli solar a phympiau gwres.

Sefydliad Rheoli Cymhwysedd Sut i wneud cais Cysylltwch Faint sydd ar gael? Dyddiad cau
Llywodraeth y DU

Mae cyfradd sero yn berthnasol i osod rhai deunyddiau arbed ynni penodol rhwng 1 Mai 2023 a 31 Mawrth 2027.

Mae cyfradd sero yn berthnasol i’r gwaith tir sy’n angenrheidiol ar gyfer gosod pympiau gwres ffynhonnell daear a dŵr mewn llety preswyl ac adeiladau elusennol , neu o fewn eu cwrtil.

https://www.gov.uk/guidance/vat-on-energy-saving-materials-and-heating-equipment-notice-7086#installations-of-energy-saving-materials Hyd at £495M yn y gronfa

Mawrth 2027

Mae'r Cynllun yn cynnig cyllid di-log a chymorth arbenigol wedi'i ariannu'n llawn, gan eich helpu i arbed arian ar filiau ynni a lleihau allyriadau carbon.

Sefydliad Rheoli Cymhwysedd Sut i wneud cais Cysylltwch Faint sydd ar gael? Dyddiad cau
Fanc Datblygu Cymr

Perchnogion tai

Cofrestrwch eich diddordeb: https://developmentbank.wales/cy/cartrefi-gwyrdd-cymru/cofrestrwch-eich-diddordeb gwybodaeth@cartrefigwyrdd.cymru £1,000 - £25,000 Bydd ceisiadau ar gyfer Cartrefi Gwyrdd Cymru yn agor yn yr hydref. Bydd y cynllun ar gael ar sail y cyntaf i'r felin yn ddarostyngedig i argaeledd cyllid.

CYFLENWYR LLEOL – YN DOD YN FUAN!

Rydym yn llunio cofrestr o gyflenwyr lleol sy’n gallu gosod mesurau effeithlonrwydd ynni. Os oes gennych ddiddordeb mewn cael eich ychwanegu at y rhestr hon, cysylltwch â Jessie Edwards jessie.edwards@challoch-energy.com

SUT I DDECHRAU ARNI

DEALL LLE MAE MODD GWNEUD ARBEDION YNNI YN HAWDD

Mae’n rhyfeddol faint y gall newidiadau bach mewn ymddygiad helpu i arbed ynni a thorri costau tra hefyd yn helpu i achub y blaned.

ARBED AR WRESOGI

Mae amrywiaeth o bethau y gallwch eu gwneud i leihau eich biliau gwresogi tra’n arbed arian ac ynni.

ARBED AR DRYDAN

Yn debyg i wresogi, mae nifer o bethau y gallwch eu gwneud i dorri costau trydan a lleihau eich effaith ar yr hinsawdd.

AP CYNHESRWYDD TECACH

Mae’r Ap Ynni Cynhesrwydd Tecach yn eich helpu i leihau eich biliau ynni a lleihau eich ôl troed carbon.